Arolwg Barn - Enw ein Cyngor Cymuned
Cartref > Newyddion > Arolwg Barn - Enw ein Cyngor Cymuned
Cyflwyniad
Bu i’r Cyngor Cymuned drafod cais gan y diweddar Llyr Bryn Roberts o Drefor i newid enw ein Cyngor Cymuned o’r enw presennol, CC LLanaelhaearn, er mwyn cynnwys enw pentref Trefor. Pasiwyd y cynnig yn unfrydol i newid yr enw i CC Trefor a LLanaelhaearn.
Cefndir
• Bu defnyddio ‘plwyf’ fel unedau llywodraeth leol ers dyddiau’r Tuduriaid, 16eg canrif.
• Dan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972 newidiodd y system o ‘blwyf’ i unedau cymunedol.
• Llanaelhaearn yw enw’r plwyf.
• Sefydlwyd pentref Trefor ym 1856.
• Trefor yw’r pentref mwyaf o ddidon o’r ddauyn yr haen ‘gymuned’ o lywodraeth leol.
Gweithredu
Fel rhan o’r broses i newid enw unrhyw Gyngor Cymuned, mae’n ofynnol canfod barn trigolion lleol.
Y cynnig yw mabwysiadu’r enw Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn.
Gwahoddir sylwadau ar y cynnig hwn drwy e-bost a/ neu lythyr at y Clerc Dylan Wynn Jones neu’r Aelod Lleol Jina Gwyrfai hyd at y 25/06/2024
Manylion cyswllt
Dylan Wynn Jones (Clerc )
Cyngor Cymuned LLANAELHAEARN
Cae Pwll , Trefor, Caernarfon , Gwynedd LL54 5BH.
E-bost: CCllanaelhaearn@yahoo.com
Jina Gwyrfai
Aelod Lleol ward Yr Eifl
Hyfrydle
Trefor
Caernarfon
Gwynedd
LL54 5HN
E-bost: Cynghorydd.JinaGwyrfai@gwynedd.llyw.cymru
This is an engagement exercise to gather the views of the community on the proposal to change the Community Council’s name from Llanaelhaearn Community Council to Trefor and Llanaelhaearn Community Council.