Rhybydd Atodal: Newid Enw Cymuned
Cartref > Newyddion > Rhybydd Atodal: Newid Enw Cymuned
Adran 76 Deddf Llywodraeth Leol 1972
Rhoddir y rhybudd hwn yn unol ag adran 76 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Yn ei gyfarfod llawn ar 5 Rhagfyr 2024, yn dilyn cais gan Gyngor Cymuned Llanaelhaearn, penderfynodd Cyngor Gwynedd i newid enw’r gymuned o Llanaelhaearn i:
Trefor a Llanaelhaearn
(Gellir gweld yr adroddiad a chofnodion y cyfarfod ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru)
Yn unol â gofynion y Ddeddf, fe anfonir y rhybudd hwn at Weinidogion Cymru, Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Cyfarwyddwr
Cyffredinol yr Arolwg Ordnans ac at y Cofrestrydd Cyffredinol. Bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Gwynedd, gwefan y Cyngor Cymuned ac ar unrhyw fwrdd rhybuddion sydd ganddo.