Seddi Wag Achlysurol - Ward Llanaelhearn
Cartref > Newyddion > Seddi Wag Achlysurol - Ward Llanaelhearn
Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Llanaelhearn ar Gyngor Trefor a Llanaelhearn.
Cynhelir etholiad i lenwi’r seddI wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r wardiau uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 11 Ebrill, 2025.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.